Ar ôl gaeaf hir o gaeafgysgu, mae holl ffrindiau’r goedwig yn awyddus i Dylan ddod allan i chwarae, ond mae’n dal i fod yn arth swrth iawn. Mae’r stori hawdd ei dilyn hon yn tynnu sylw at werth cyfeillgarwch, aros yn actif ac wrth gwrs yr hwyl o ddawnsio i’ch curiad eich hun. Mae hyn i gyd, wrth ysbrydoli plant i fynd allan gyda’u ffrindiau i chwarae. Ymunwch â Dylan a’i ffrindiau yn y goedwig wrth iddynt ddathlu llawenydd y Gwanwyn yn y llyfr lluniau AM DDIM hwn sy’n llawn hwyl ac wedi’i ddarlunio’n hardd.